Llogi Ystafell
Mae’r Hwb ar gael ar ddydd Llun, dydd Mercher, a ddydd
Gwener ac mae’n lle delfrydol ar gyfer amrywiaeth o
weithgareddau. Os ydych am gynnal cyfarfodydd busnes,
ymgynnull gyda ffrindiau, cynnal gwersi neu sesiynau
hobi, mae'r Hwb yn cynnig amgylchedd croesawgar.
Gofod Gweithio
Ydych chi’n gweithio o bell ac yn dymuno gofod tawel i
wneud hynny? Mae yma ddesgiau, cadeiriau cyfforddus
ynghyd â Wi-Fi am ddim, wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i
fod yn gynhyrchiol mewn amgylchedd hamddenol a
chyfforddus.
Gwasanaeth Llyfrgell
Mae'r llyfrgell ar agor i'r cyhoedd bob dydd Mawrth o
10am-1pm ac yna 2-5pm. Mae hefyd ar agor ar ddydd Iau
rhwng 2-6pm ac yn cynnig dewis da o lyfrau oedolion a
phlant sydd ar gael i'w benthyca. Gall aelodau'r llyfrgell
hefyd ddefnyddio'r cyfrifiaduron sydd ar gael, argraffu neu
sganio dogfennau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau
tymhorol a heriau darllen.